Antoine de Saint-Exupéry
Antoine de Saint-Exupéry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Antoine Jean-Baptiste Marie Roger de Saint-Exupéry ![]() 29 Mehefin 1900 ![]() Lyon ![]() |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1944 ![]() île de Riou, Y Môr Canoldir ![]() |
Dinasyddiaeth | Ffrainc ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hedfanwr, bardd, nofelydd, hunangofiannydd, awdur plant, awdur ysgrifau, ysgrifennwr, newyddiadurwr, darlunydd, athronydd, aircraft mechanic ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Vol de nuit, Y Tywysog Bach, Courrier sud, Wind, Sand and Stars, Letter to a hostage, Flight to Arras ![]() |
Arddull | nofel, tale, ffuglen ddamcaniaethol, drama, dogfen, barddoniaeth ![]() |
Priod | Consuelo de Saint Exupéry ![]() |
Llinach | Saint-Exupéry family ![]() |
Gwobr/au | Mort pour la France, Prix Femina, Gwobr Cenedlaethol y Llyfr, Prif Wobr Nofel yr Academi Ffrengig, Croix de guerre 1939–1945, Gwobr Genedlaethol am Lyfr Ffeithiol, Officier de la Légion d'honneur, Croix de guerre, Gwobr Hugo am y Nofel Fer Orau, Retro Hugo Award for Best Novella ![]() |
Gwefan | https://www.antoinedesaintexupery.com/ ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Awyrennwr ac awdur Ffrengig oedd Antoine Marie Jean-Baptiste Roger de Saint-Exupéry (29 Mehefin 1900 – 31 Gorffennaf 1944).[1][2]
Ganed ef yn Lyon, i deulu oedd o dras uchelwrol. Wedi hyfforddi fel awyrennwr yn ystod ei wasanaeth milwrol yn 1921, bu'n gweithio fel peilot i gwmni Latécoère, yn cario'r post o Toulouse i Senegal. Cyhoeddodd Courrier Sud, yn seiledig ar ei brofiad yn y swydd yma, yn 1929.
O 1932, bu'n canolbwyntio ar ysgrifennu a newyddiaduraeth. Fel newyddiadurwr, bu yn Fietnam yn 1934 , Moscow yn 1935, a Sbaen yn 1936. Yn 1939, ymunodd a'r awyrlu Ffrengig. Wedi cwymp Ffrainc, symudodd i Efrog Newydd gyda'r bwriad o barhau'r rhyfel a dod yn llefarydd dros y Résistance Ffrengig. Yn 1944 bu'n hedfan dros dde Ffrainc yn cymryd lluniau o'r awyr i gasglu gwybodaeth ar gyfer ymosodiadau'r Cynghreiriaid. Diflannodd yn ystod un o'r teithiau hyn, ar 31 Gorffennaf. Dim ond yn 1998 y cafwyd hyd i'w awyren.
Ysgrifennodd ei lyfr enwocaf, Le Petit Prince, yn Efrog Newydd yn 1943. Cyhoeddwyd addasiad ohono i'r Gymraeg fel Y Tywysog Bach gan Llinos Dafis (Edition Tintenfass, Neckarsteinach 2007).
Gweithiau (detholiad)[golygu | golygu cod y dudalen]
- Courrier sud (nofel) (1929)
- Vol de nuit (1931)
- Terre des hommes (1939)
- Le Petit Prince (1943); cyfieithu i'r Cymraeg gan Llinos Dafis fel Y Tywysog Bach (2007)
- Pilote de guerre (1942)
- Lettre à un otage, traethawd
- Citadelle
- Lettres de jeunesse
- Carnets
- Lettres à sa mère
- Écrits de guerre 1939-1944
- Kimmeke toch '
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Schiff (2006), p. xi.
- ↑ Severson (2004), p. 158.
Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Commire, Anne; Gale Research Company. Something about the Author (Rhif 20: Something about the Author: Facts and Pictures about Contemporary Authors and Illustrators of Books for Young People), Gale Research, 1980, ISBN 0-8103-0053-2, ISBN 978-0-8103-0053-8